Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 1, Senedd a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 15
Ionawr 2026
Amser:
09.31 -
12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15708
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Natasha Asghar AS Cefin Campbell AS Russell George AS Vaughan Gething AS Buffy Williams AS (Cadeirydd) Carolyn Thomas AS |
|
Tystion: |
James Owen, Medr Giles Cutler, Medr |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Leah Whitty (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Thomas Morris (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Nododd y Cadeirydd fod Cefin Campbell AS yn gorfod gadael y cyfarfod ar ôl eitem 2.
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Medr a’i adroddiad blynyddol.
2.2 Cytunodd Medr i ddarparu nodyn am y canlynol:
- Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yng Ngholeg Cambria o ran dysgwyr heb eu lleoli.
- Rhagor o wybodaeth am y rhesymau pam bod cymaint o anghysondeb rhwng cyfran y dysgwyr sydd eisiau ymgymryd â phrentisiaeth a chyfran y dysgwyr sy'n gwneud hynny yn y pen draw.
- Gwybodaeth am faint o gyflogeion cwmni Dur Tata a gafodd gefnogaeth drwy gyllid sgiliau cyhoeddus ac a aeth ymlaen i sicrhau cyflogaeth neu symud ymlaen at lwybrau cadarnhaol eraill ar ôl cwblhau eu cyfnodau dysgu.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.
6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd ar newidiadau. Byddai’r newidiadau a chymeradwyo terfynol yn cael eu cyflawni yn electronig.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor ddarn o ohebiaeth mewn cysylltiad â'r gwaith y mae'n ei wneud ar wella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y meysydd yr hoffent ganolbwyntio arnynt ar gyfer y sesiynau craffu sydd ar ddod gyda Llywodraeth Cymru.